Vergelijk aanbieders (1)
Winkels met andere maten
Mae'r llyfr hwn yn astudiaeth o'r modd y mae'r gyfraith wedi cael ei phortreadu gan feirdd a llenorion Cymraeg, o'r Oesoedd Canol hyd at heddiw. Adroddir hanes Cymru trwy gyfrwng delweddau o'r gyfraith mewn llenyddiaeth. Ar hyd y canrifoedd, bu’r gyfraith yn ysgogi, ysbrydoli a chynddeiriogi beirdd a llenorion Cymru. Dyma gyfrol arloesol sydd yn adrodd hanes yr ymateb llenyddol i syniadau, swyddogion a sefydliadau’r gyfraith. Ceir ynddi astudiaeth thematig a phanoramig sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o’r oesoedd canol cynnar hyd at ein dyddiau ni. Cawn foli a marwnadu, diolch a dychanu, chwerthin a chrio, oll yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llên fel cyfrwng i fynegi barn ar gyfiawnder. Deuwn hefyd i ddeall priod le’r gyfraith i’n hunaniaeth genedlaethol ar hyd yr oesau, a hynny trwy gyfrwng crefft ac awen. Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y mae’n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â chyfrannu’n bwysig i hanesyddiaeth lenyddol.
Productspecificaties
| EAN |
|
|---|---|
| Maat |
|